Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes
Digwyddiadau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oedran a chefndir drwy gyfrwng bwyd yw digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.
Mae’r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom. Er na allwn ddod at ein gilydd yn gorfforol ar hyn o bryd, mae ymchwil diweddar gan YouGov yn dangos bod cysylltiadau cymdeithasol yn gryfach nag o’r blaen, gyda 40% o bobl yn teimlo bod y gymuned leol yn gryfach a 39% yn cadw mwy o gysylltiad â theulu a ffrindiau.
Oni fyddai’n wych pe bai’r cysylltiadau cymunedol newydd hyn yn dod yn normal newydd!

Sut y gall digwyddiadau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes fod yn rhan o’ch cymuned chi?
Gallwn ddod at ein gilydd mewn sawl ffordd tra byddwn yn cadw pellter cymdeithasol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chychwyn arni heddiw!